1)        Diffyg myfyrwyr iaith Gymraeg yn cael eu hyfforddi fel meddygon yng Nghymru – Rwy’n nabod nifer o fyfyrwyr meddygaeth, sy’n siarad cymraeg, na gafodd le yng Ngholeg Meddygaeth Caerdydd mewn blynyddoedd diweddar. Oherwydd hyn mae nhw’n gorfod astudio yn Lloegr ac yna yn llai tebygol o weithio yng Nghymru. Mae nifer o bobol wedi son am y broblem ac mae’n debyg mai ond canran fach o fyfyrwyr y coleg sydd o Gymru. Efallai bod y canran mor isel a 10%. Pe bai’r coleg yn gorfod neulltio canran uchel o’r llefydd i fyfyrwyr cymru yn gyntaf (e.e. 70%) yna byddai’r siawns o gael doctoriaid iaith gymraeg yn y gweithle, lawer yn uwch. Yn ogystal byddai mwy o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, oherwydd byddai llai yn gadael.

2)        Ariannu myfyrwyr i astudio yn Lloegr – Mae nifer fawr o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yn gadael Cymru i astudio yn Lloegr, a rwy’n gwybod am nifer sydd ddim yn dychwelyd. Pe byddai system arianu myfyrwyr yn fwy hael i’r rhai oedd yn aros yng Nghymru, cyn belled a bod y pwnciau pwysig ar gael yma, yna byddai’n bosib cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg sydd yng Nghymru, heb wario arian.

Diolch
Dafydd Roberts